Isaiah 35

Ysblander Duw yn dod i'r golwg

1Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen,
bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo –
yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.
2Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi;
bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi,
a harddwch Carmel a Saron.
Byddan nhw'n gweld ysblander yr Arglwydd,
a harddwch ein Duw ni.
3Cryfhewch y dwylo llesg;
a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn!
4Dwedwch wrth y rhai ofnus,
“Byddwch yn ddewr!
Peidiwch bod ag ofn!
Edrychwch ar ein Duw!
Mae e'n dod i ddial!
Y tâl dwyfol!
Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!”
5Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,
a chlustiau pobl fyddar hefyd.
6Bydd y cloff yn neidio fel hydd,
a'r mud yn gweiddi'n llawen!
Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,
ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
7Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr,
a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio.
Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddian
yn troi'n gorsydd o frwyn.
8Bydd priffordd; ie, ffordd yno
sy'n cael ei galw, "Y Ffordd Sanctaidd".
Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni –
mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd.
Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
9Fydd dim llew yno,
a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati –
fydd dim i'w cael yno.
Ond bydd y rhai sydd wedi eu rhyddhau
yn cerdded ar ei hyd.
10Bydd y bobl ollyngodd yr Arglwydd yn rhydd
yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!
Bydd y llawenydd sy'n para am byth
yn goron ar eu pennau!
Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio
gan hwyl a gorfoledd,
am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Copyright information for CYM